aJeremeia 46:2-26; Eseciel 29:1—32:32

Isaiah 19

Duw yn cosbi'r Aifft

1Neges am yr Aifft. a

Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl cyflym,
ac yn dod i'r Aifft.
Bydd eilunod diwerth yr Aifft yn crynu o'i flaen,
a bydd yr Eifftiaid yn digalonni.
2“Achos bydd gwrthdaro sifil yn yr Aifft;
bydd yr Eifftwyr yn ymladd ei gilydd,
un yn erbyn y llall,
dinas yn erbyn dinas,
teyrnas yn erbyn teyrnas.
3Bydd yr Aifft wedi anobeithio,
a bydda i wedi drysu ei chynlluniau.
Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad,
ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn.
4Bydda i'n rhoi'r Eifftiaid
yn nwylo meistri gwaith caled,
a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.”

—y Meistr, yr Arglwydd holl-bwerus sy'n dweud hyn.
5Bydd yr Afon Nil yn sychu,
a gwely'r afon yn grasdir sych.
6Bydd y camlesi yn drewi,
canghennau'r Afon Nil yn sychu,
a'r brwyn a'r hesg yn pydru.
7Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith,
a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lan
yn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd –
fydd dim ar ôl.
8Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno –
pawb sy'n taflu bachyn i'r afon,
neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr.
9Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd,
y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion.
10Bydd y rhai sy'n gwneud brethyn wedi eu llethu gan bryder,
a phawb sy'n cael eu cyflogi wedi torri eu calonnau.
11Mae arweinwyr Soan
19:11 Soan Tref ar ddelta'r Afon Nil.
yn ffyliaid.
Mae cynghorwyr mwya doeth y Pharo
yn dweud pethau cwbl hurt!
Sut allwch chi ddweud wrth y Pharo,
“Dw i'n un o'r rhai doeth,
o urdd yr hen frenhinoedd”?
12Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di?
Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deall
beth mae'r Arglwydd holl-bwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft.
13Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid,
ac arweinwyr Memffis
19:13 Hebraeg  Noff.
wedi eu twyllo;
Mae penaethiaid ei llwythau
wedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn.
14Mae'r Arglwydd wedi ei chymysgu a'i drysu,
a gwneud iddi faglu dros bobman,
fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog.
15All neb wneud dim i helpu'r Aifft –
pen na chynffon,
cangen balmwydd na brwynen. d

16Bryd hynny bydd yr Eifftiaid yn wan fel merched. Byddan nhw'n crynu mewn ofn am fod yr Arglwydd holl-bwerus yn codi ei law i'w taro nhw. 17Bydd sôn am Jwda'n codi dychryn ar yr Aifft. Bydd pawb fydd yn cofio ei arwyddion yn crynu wrth feddwl am beth mae'r Arglwydd holl-bwerus yn bwriadu ei wneud iddyn nhw.

18Bryd hynny bydd pum tref yn yr Aifft yn siarad iaith Canaan ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i'r Arglwydd holl-bwerus. Dinas yr Haul
19:18 Dinas yr Haul Dyna sydd yn rhai llawysgrifau Hebraeg, Sgroliau'r Môr Marw, ac un cyfieithiad hynafol (Dinas Distryw sydd yn y mwyafrif o lawysgrifau Hebraeg.) Cyfeiriad sydd yma at Heliopolis, sy'n golygu "Dinas yr Haul" (gw. Jeremeia 43:13).
fydd enw un ohonyn nhw.

19Bryd hynny bydd allor i'r Arglwydd yng nghanol yr Aifft, a colofn wedi ei chysegru i'r Arglwydd ar y ffin. 20Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r Arglwydd holl-bwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr Arglwydd am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw. 21Achos bydd yr Arglwydd yn datguddio ei hun i'r Eifftiaid, a byddan nhw'n dod i'w nabod e bryd hynny. Byddan nhw'n ei addoli gydag aberth ac offrwm o rawn, yn gwneud addunedau iddo, ac yn eu cadw. 22Os bydd yr Arglwydd yn taro'r Aifft gyda phla, bydd yn ei tharo ac yna yn ei gwella. Os byddan nhw'n troi yn ôl at yr Arglwydd, bydd e'n ymateb iddyn nhw ac yn eu hiacháu nhw.

23Bryd hynny, bydd priffordd o'r Aifft i Asyria. Bydd yr Asyriaid yn mynd i'r Aifft, a'r Eifftiaid yn mynd i Asyria, a bydd yr Eifftiaid a'r Asyriaid yn addoli gyda'i gilydd.

24Bryd hynny, Israel fydd y trydydd partner gyda'r Aifft ac Asyria ac yn cael eu bendithio ar y ddaear, 25Bydd yr Arglwydd holl-bwerus yn eu bendithio nhw, ac yn dweud, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy llaw, ac ar Israel, fy etifeddiaeth.”

Copyright information for CYM